Croeso i Ofal Plant Gogerddan,
lle mae antur dysgu
yn cychwyn!
Diolch ichi am eich diddordeb yng Ngofal Plant Gogerddan.
Ein braint ni yw cael gofalu am bob plentyn sy’n dod i Feithrinfa
Plas Gogerddan wrth iddynt ddechrau ar eu taith i archwilio a
dysgu drwy chwarae, hwyl a chyfeillgarwch. Gyda chymorth ein
staff llawn gofal, bydd eich plentyn yn creu sylfaen gref ar gyfer
bywyd a dysgu.